Mr. Richard L. Davies, teacher of the Board School at Ystalyfera, in the Tawë Valley, has been kind enough to write out for me a budget of ideas about the Cwm Tawë Fairies, as retailed to him by a native who took great delight in the traditions of his neighbourhood, John Davies (Shôn o'r Bont), who was a storekeeper at Ystalyfera. He died an old man about three years ago. I give his stories as transmitted to me by Mr. Davies, but the reader will find them a little hazy now and then, as when the fairies are made into ordinary conjurer's devils:--
Rhywbeth rhyfed yw yr hen Gastell yna (gan olygu Craig Ynys Geinon): yr wyf yn cofio yr amser pan y bydai yn dychryn gan bobl fyned yn agos ato--yn enwedig y nos: yr oed yn dra pheryglus rhag i dyn gael ei gymeryd at Bendith eu Mamau. Fe dywedir fod wmred o'r rheiny yna, er na wn i pa le y maent yn cadw. 'R oed yr hen bobl yn arferol o dweyd fod pwll yn rhywle bron canol y Castell, tua llathen o led, ac yn bump neu chwech llath o dyfnder, a charreg tua thair tynnell o bwysau ar ei wyneb e', a bod fford dan y daear gandynt o'r pwll hynny bob cam i ogof Tan yr Ogof, bron blaen y Cwm (yn agos i balas Adelina Patti, sef Castell Craig y Nos), mai yno y maent yn treulio eu hamser yn y dyd, ac yn dyfod lawr yma i chwareu eu pranciau yn y nos.
Mae gandynt, mede nhw, ysgol aur, o un neu dwy ar hugain o ffyn; ar hyd honno y maent yn tramwy i fyny ac i lawr. Mae gandynt air bach, a dim ond i'r blaenaf ar yr ysgol dywedyd y gair hynny, mae y garreg yn codi o honi ei hunan; a gair arall, ond i'r olaf wrth fyned i lawr ei dywedyd, mae yn cauad ar eu hol.
Dywedir i was un o'r ffermyd cyfagos wrth chwilio am wningod yn y graig, dygwyd dyweyd y gair pan ar bwys y garreg, idi agor, ac ido yntau fyned i lawr yr ysgol, ond am na wydai y gair i gauad ar ei ol, fe adnabu y Tylwyth wrth y draught yn diffod y canwyllau fod rhywbeth o le, daethant am ei draws, cymerasant ef atynt, a bu gyda hwynt yn byw ac yn bod am saith mlyned; ymhen y saith mlyned fe diangod a llon'd ei het o guineas gando.
Yr oed efe erbyn hyn wedi dysgu y dau air, ac yn gwybod llawer am eu cwtches nhw. Fe dywedod hwn y cwbl wrth ffarmwr o'r gymdogaeth, fe aeth hwnnw drachefn i lawr, ac yr oed rhai yn dyweyd ido dyfod a thri llon'd cawnen halen o guineas, hanner guineas, a darnau saith-a-chwech, odiyno yr un diwrnod. Ond fe aeth yn rhy drachwantus, ac fel llawer un trachwantus o'i flaen, bu ei bechod yn angeu ido.