"Aeth wythnosau a misoedd gofidus heibio, a ganwyd mab i fab Llech y Derwydd; ond nid oedd y tad ieuanc yno i gael gweled ei blentyn, ac yr oedd hyny yn ofidus iawn gan yr hen bobl. Beth bynag, daeth y dyn bach i fyny yr un ddelw a'i dad, fel pe buasai wedi ei arlunio; a mawr ydoedd yng ngolwg ei daid a'i nain. Efe oedd pobpeth yno. Tyfodd i oedran gwr, a phriododd a merch landeg yn y gymydogaeth; ond nid oedd gair da i'r tylwyth eu bod yn bobl hawddgar.

"Bu farw yr hen bobl, a bu farw y ferch-yng-nghyfraith hefyd. Ar ryw brydnawn gwyntog, ym mis Hydref, gwelai teulu Llech y Derwydd henafgwr tal, teneu, a'i farf a'i wallt fel yr eira, yr hwn a dybient ydoedd Iddew, yn dynesu yn araf araf at y ty. Hylldremiai y morwynion drwy y ffenestr, a chwarddai y feistress am ben yr 'hen Iddew,' gan godi y plant un ar ol y llall i'w weled yn dyfod. Daeth at y drws, a daeth i mewn hefyd yn lled eofn, gan ofyn am ei rieni. Atebai y wraig ef yn daeog, a choeglyd anghyffredin, gan ddywedyd, 'Beth oedd yr hen Iddew meddw yn dyfod yno,' oblegid tybient ei fod wedi yfed, onid e ni fuasai yn siarad felly. Edrychai yr hen wr yn syn a phryderus iawn ar bob peth yn y ty, gan synu llawer; ond ar y plant bychain ar hyd y llawr y sylwai fwyaf. Edrychai yn llawn siomedigaeth a gofid. Dywedodd yr hanes i gyd, iddo fod allan yn hela ddoe, a'i fod yn awr yn dychwelyd. Dywedodd y wraig iddi glywed chwedl am dad ei gwr flynyddau cyn ei geni, ei fod wedi myned ar goll wrth hela; ond fod ei thad yn dywedyd wrthi nad gwir hyny, mai ei ladd a gafodd. Aeth y wraig yn anystywallt, ac yn llwyr o'i chof eisiau fod yr hen 'Iddew' yn myned allan. Cyffrodd yr hen wr, a dywedai mai efe ydoedd perchen y ty, ac y byddai raid iddo gael ei hawl. Aeth allan i weled ei feddianau, ac yn fuan i dy y deiliad. Er ei syndod, yr oedd pethau wedi newid yn fawr yno. Ar ol ymddiddan am dro a hen wr oedranus wrth y tan, edrychai y naill fwy fwy ar y llall. Dywedai yr hen wr beth fu tynged ei ben gyfaill, mab Llech y Derwydd. Siaradent yn bwyllog am bethau mebyd, ond yr oedd y cyfan fel breuddwyd. Beth bynag, penderfynodd yr hen wr yn y cornel mai ei hen gyfaill, mab Llech y Derwydd, oedd yr ymwelydd, wedi dychwelyd o wlad y Tylwyth Teg, ar ol bod yno haner can' mlynedd. Credodd yr hen wr a'r farf wen ei dynged, a mawr y siarad a'r holi fu gan y naill y llall am oriau lawer.

Folk-Lore of West and Mid-Wales — Part 104