Teithi etmygant Tri llwry novant Pymwnt a phymcant Trychwn a thrychant Tri si chatvarchawc Eidyn euruchawc Tri llu llurugawc Tri eur deyrn dorchawc Tri marchawc dywal Tri chat gyhaual Tri chysneit kysnar Chwerw vysgynt esgar Tri en drin en drwm Llew lledynt blwm Eur e gat gyngrwn Tri theyrn maon A dyvu o vrython Kynri a Chenon Kynrein o aeron Gogyuerchi yn hon Deivyr diuerogyon A dyvu o vrython Wr well no Chynon Sarph seri alon
Eveis y win a med e mordei Mawr meint e vehyr Yg kyuaruot gwyr Bwyt e eryr erysmygei Pan gryssyei gydywal kyfdwyreei Awr gan wyrd wawr kyui dodei Aessawr dellt ambellt a adawei Pareu rynn rwygyat dygymmynei E gat blaen bragat briwei Mab syvno sywedyd ae gwydyei A werthws e eneit Er wyneb grybwyllyeit A llavyn lliveit lladei Lledessit ac a thrwys ac affrei Er amot aruot arauethei Ermygei galaned O wyr gwychyr gwned Em blaen gwyned gwanei
Eveis y win a med e mordei Can yueis disgynneis rann fin fawd ut Nyt didrachywed colwed drut Pan disgynnei bawb ti disgynnot Ys deupo gwaeanat gwerth na phechut Pressent i drawd oed vreichyawr drut
Gwyr a aeth gatraeth buant enwawc Gwin a med o eur vu eu gwirawt Blwydyn en erbyn urdyn deuawt Trywyr a thri ugeiut a thrychant eurdorchawc Or sawl yt gryssyassant uch gormant wirawt Ny diengis namyn tri o wrhydri fossawt Deu gatki aeron a chenon dayrawt A minheu om gwaetfreu gwerth vy gwennwawt
Uyg car yng wirwar nyn gogyffrawt O neb o ny bei o gwyn dragon ducawt Ni didolit yng kynted o ved gwirawt Ef gwnaei ar beithing perthyng aruodyawc Ef disgrein eg cat disgrein en aelawt Neus adrawd gododin gwedy fossawt Pan vei no llwyeu llymach nebawt
Aryf angkynnull agkyman dull agkysgoget Tra chywed vawr treiglessyd llawr lloegrwys giwet Heessit eis ygkynnor eis yg cat uereu Goruc wyr lludw A gwraged gwydw Kynnoe angheu Greit vab hoewgir Ac ysberi Y beri creu
Arwr y dwy ysgwyt adan E dalvrith ac eil tith orwydan Bu trydar en aerure bu tan Bu ehut e waewawr bu huan Bu bwyt brein bu bud e vran A chyn edewit en rydon Gran wlith eryr tith tiryon Ac o du gwasgar gwanec tu bronn Beird byt barnant wyr o gallon Diebyrth e gerth e gynghyr Diua oed e gynrein gan wyr A chynn e olo a dan eleirch Vre ytoed wryt ene arch Gorgolches e greu y seirch Budvan vab bleidvan dihavarch